Cynadleddau a Digwyddiadau
Neuadd y Sir, sydd ar lan y dŵr yng nghanol Bae Caerdydd, yw'r lleoliad perffaith i gynnal eich cynhadledd neu ddigwyddiad. Gallwn ddarparu ar gyfer hyd at 500 o westeion.
Mae ein pecynnau'n cynnwys:
- 4 ystafell ddigwyddiadau hyblyg gyda'r holl offer angenrheidiol
- Cyfarpar i'w logi - System PA, darllenfa, llwyfan, taflunwyr a sgriniau
- Wi-Fi am ddim
- Maes parcio mawr
- Ardal cwrdd yn anffurfiol
- Cysylltiadau rhagorol â thrafnidiaeth
- Gwasanaeth arlwyo llawn
Beth bynnag fo'ch anghenion, bydd ein tîm profiadol proffesiynol yn gweithio gyda chi i sicrhau bod eich digwyddiad yn mynd rhagddo'n ddidrafferth.
Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio Neuadd y Sir ar gyfer eich cynhadledd neu ddigwyddiad, cysylltwch â ni am ragor o fanylion.